aradgoch.cymru
Arad Goch
http://www.aradgoch.cymru/index.php/cysylltu/cysylltu
Llun gan Keith Morris. Mae croeso ichi gysylItu a ni ag unrhyw ymholiad, i archebu tocynnau neu am sgwrs! Mae Canolfan Arad Goch mewn lleoliad arbennig yng nghanol tref Aberystwyth. JavaScript must be enabled to view this email address). Pan fyddwch yn ymweld â ni y llefydd gorau i chi barcio yw yn y maes parcio yn Stryd y Baddon (drws nesa i’r sinema) neu mae parcio am ddim ar y prom. I weld lleoliad y ganolfan ar fap.
aradgoch.cymru
Arad Goch
http://www.aradgoch.cymru/index.php/addysg
Arbenigedd Arad Goch yw darparu theatr ag iddi berthnasedd i fywydau a datblygiad plant a phobl ifanc. Rydym ni’n bwriadu i bob cynhyrchiad gynnig profiadau esthetig fydd yn cyfoethogi dealltwriaeth plant a phobl ifanc ohonynt eu hunain, eu cynefin a’u cymdeithas, yn lleol ac yn fyd-eang. Yn ein tyb ni mae pob plentyn yn haeddu profi celfyddyd fyw a chyfoes. Rhoddir pwyslais ar yr elfen ‘theatr’ yn ein gwaith bob amser gan gredu fod theatr gref ac ystyrlon yn gallu esgor ar addysg dda. Mae Arad Goch yn g...
aradgoch.cymru
Arad Goch
http://www.aradgoch.cymru/index.php/ni
Staff a Bwrdd Rheoli. Mae Arad Goch yn creu theatr gyffrous a pherthnasol ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym yn anelu at greu profiad theatrig sy’n ysbrydoli, ysgogi ac yn gofiadwy. Mae ein gwaith yn tynnu ar ddeunydd a thraddodiadau cynhenid Gymraeg yn ogystal â themâu ac arddulliau cyfoes a heriol. Er mwyn cyfoethogi profiadau plant a phobl ifanc rydyn ni’n cynnal nifer o weithgareddau cyfranogol - gan gynnig cyfleoedd iddynt gydweithio ag artistiaid proffesiynol trwy amrywiol glybiau, cyrsiau a gweit...
aradgoch.cymru
Arad Goch
http://aradgoch.cymru/index.php/beth-sy-mlan/llawn2/canolfan_arad_goch
Nôl i beth sy mlan. Mae Canolfan Arad Goch yn leoliad gwych ar gyfer cynnal eich cyfarfodydd, darlithoedd a chynadleddau yn ogystal â bod yn adeilad penigamp ar gyfer cyrsiau hyfforddiant a gweithdai amrywiol. Mae hefyd yn fan perfformio ac ymarfer ar gyfer pob math o ddigwyddiadau celfyddydol. Mae’r adeilad yn caniatau mynediad i’r anabl ac mae yma lifft i bob llawr. Mae staff Arad Goch yn enwog am eu hynawsedd a’u cyfeillgarwch a cheir yma groeso cynnes bob amser.
aradgoch.cymru
Arad Goch
http://aradgoch.cymru/index.php/beth-sy-mlan/llawn3/cynyrchiadau_i_ddod_yn_2015
Nôl i beth sy mlan. Cynyrchiadau i ddod yn 2015. MWNCI AR DAN / BURNING MONKEY. 14 Medi 16 Hydref. Drama gyfoes bwerus gan Sera Moore Williams am ryfel, trais, teuluoedd sydd wedi gwahanu a chyfrifoldebau. Addas ar gyfer plant blwyddyn 9 i fyny. Cast: Aaron Davies, Owain Llŷr Edwards, Rhianna Loren. 29 Medi 4 Rhagfyr. Stori anhygoel y Cymry anturus a ymfudodd i Batagonia 150 mlynedd yn ol . Taith Ysgolion a pherfformiadau cyhoeddus. Addas i blant 7-11 oed a theuluoedd. 2 Tachwedd 11 Rhagfyr.
aradgoch.cymru
Arad Goch
http://aradgoch.cymru/index.php/newyddion/llawn/cysgun_brysur
Yn ôl i’r dudalen newyddion. YN EISIAU ACTORION IFANC 18-25 OED. Ar gyfer cynhyrchiad proffesiynnol o ddrama gerdd newydd CYSGU’N BRYSUR drama gyfoes gan Bethan Marlow am bobol ifanc, affêrs, fflirtio ac angst y dosbarth, gadael, cuddio, darganfod dy hun, a pharti gwyllt yn y coed. Cerddoriaeth gan BROMAS. Coreograffi gan Eddie Ladd. Cyfarwyddwr Cerdd Rhys Taylor. Cyfarwyddwr Jeremy Turner. Ar Daith 7-26 Mawrth 2016. Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Canolfan y Clefyddydau Aberystwyth. Y Pafiliwn, Rhyl.
aradgoch.cymru
Arad Goch
http://www.aradgoch.cymru/index.php/y-ganolfan
Y Ganolfan yw cartref Arad Goch yng nghanol tref Aberystwyth. Mae’r adeilad - oedd yn gapel ar un cyfnod - yn drawiadol tu hwnt a’r drysau mawr coch yn estyn croeso i bawb. Wedi ei adnewyddu’n llwyr y tu mewn mae’r adnoddau yn wych ac ar gael i’w defnyddio gan unrhyw fudiad neu unigolyn. Mae’n adeilad hyblyg a mae yma ofod ar gyfer pob math o weithgaredd, boed hynny yn barti pen-blwydd, cyfarfod, perfformiad, arddangosfa, gig, cynhadledd, gwersi piano neu hyd yn oed Briodas!
aradgoch.cymru
Arad Goch
http://www.aradgoch.cymru/index.php/beth-sy-mlan
A Good Clean Heart - ymlaen yn Arad Goch. The Dylan Thomas Sound Project. OES RHAID I MI DDEFFRO? Ble Mae’r Dail yn Hedfan - Cymru, Majorca a Llundain! Arad Goch a somewhereto re:store. BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN. TGAU Drama gyda Arad Goch! Llawer o wynebau newydd! Cynyrchiadau Cyfredol a Rhai i Ddod. Cynyrchiadau i ddod yn 2015. 6 x 1 - Dwy sioe newydd. EISIAU BOD YN ARTIST PRESWYL YN ARAD GOCH? Arddangosfa Posteri 25 mlynnedd. Y Glec / King Hit. Diwrnod Hyfryd Sali Mali. O Cysgu’n Brysur i Sali Mali.
aradgoch.cymru
Arad Goch
http://aradgoch.cymru/index.php/newyddion/llawn/arad_goch_ar_faes_yr_eisteddfod
Yn ôl i’r dudalen newyddion. ARAD GOCH AR FAES YR EISTEDDFOD. Bydd cwmni theatr Arad Goch yn cynnal perfformiadau o 2 ddrama ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod eleni. Mae’r Eisteddfod hefyd yn gyfle i rannu gwybodaeth am ein cynhyrchiadau teithiol rhwng hyn a’r nadolig ‘Hola! Sioe am y Cymry ymfudodd i Batagonia) , ‘Mwnci ar Dân’ a ‘Sxto’ . Hefyd, ein cynhyrchiad mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru ym mis Mawrth 2016, sef ‘ Cysgu’n Brysur’, drama gerddorol gyfoes graddfa fawr.
SOCIAL ENGAGEMENT