arasgwrnygraig.blogspot.com
Ar Asgwrn y Graig: December 2014
http://arasgwrnygraig.blogspot.com/2014_12_01_archive.html
Ar Asgwrn y Graig. Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr. Saith Rhyfeddod y Gwyliau. Na ddywed ddrwg am y flwyddyn. Nes dyfod am ei therfyn. Dwi ddim yn hoff o'r drefn yr adeg yma o'r flwyddyn o roi rhaglenni teledu a radio, ac erthyglau papur newydd ac ati, yn edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu. Esgus i ailgylchu hen ddeunydd a chreu rhywbeth rhad. Dim pawb sy'n gwirioni 'run fath. Fodca llus. Oriau mân 30 Rhagfyr 2014. A chael agor y fodca llus. Dyddiau rhewlly...
arasgwrnygraig.blogspot.com
Ar Asgwrn y Graig: March 2015
http://arasgwrnygraig.blogspot.com/2015_03_01_archive.html
Ar Asgwrn y Graig. Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr. Dant y llew cynta'r flwyddyn dynnodd fy sylw, a gwneud i mi chwerthin ar gyflwr truenus y lawnt acw. Nid fod y peth yn newyddion i ni, ond argian ulw, mae'r diffyg glaswellt yn destun cywilydd. Neu mi fysa fo, taswn i'n malio botwm corn am drwch y gwair yno! Mall a'i medd. y 'lawnt' honedig yn foel iawn o ran gweiriau. Wedyn yr oedolion fydd pia'r ardd i gyd! Fel yn yr hydref. Mi es am dro: y tro hwn i ...
arasgwrnygraig.blogspot.com
Ar Asgwrn y Graig: November 2014
http://arasgwrnygraig.blogspot.com/2014_11_01_archive.html
Ar Asgwrn y Graig. Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr. Dwn 'im lle aeth Tachwedd. Duw a wyr lle'r aeth yr undeg-saith mlynedd dwytha chwaith. Dwi 'di bod yn rhedeg efo'r ferch hynaf i weld prifysgolion, cyn iddi hi adael y nyth. A dwi wedi manteisio ar gyfleon prin hefyd i ymweld ag ambell le oeddwn i eisiau gweld, tra o'n i wrthi. Ta waeth, roedd y tywydd yn sych ar y cyfan; y golygfeydd yn odidog; a'r cwmni'n dda. Amhrisiadwy. Mynydd Tir Cwmwd, Llŷn.
arasgwrnygraig.blogspot.com
Ar Asgwrn y Graig: Cwt coed a draenogod
http://arasgwrnygraig.blogspot.com/2015/07/cwt-coed-draenogod.html
Ar Asgwrn y Graig. Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr. Cwt coed a draenogod. Mae o leiaf un rhan o'r ardd gefn yma mewn llanast ac anhrefn ar ryw adeg trwy'r flwyddyn. Wrth inni ddod i ben efo creu'r ardd fesul darn, rydan ni'n arbenigwyr mewn symud pethau o un lle i'r llall; dybl-handling a hanner. Mae'n teimlo weithia fel bo' angen gwneud tri neu bedwar peth cyn allwn ni wneud y joban sydd dan sylw. Mynd rownd mewn cylchoedd. To newydd Garej Paradwys.
arasgwrnygraig.blogspot.com
Ar Asgwrn y Graig: October 2014
http://arasgwrnygraig.blogspot.com/2014_10_01_archive.html
Ar Asgwrn y Graig. Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae'r tomatos yn dal i aeddfedu yn y ty gwydr, a'r tywydd mwyn yn dal i blesio. Ches i ddim arlliw o'r aflwydd blight. Ar y tomatos eleni, felly mae'r ffrwythau wedi cael aros ar y planhigion tan rwan. Bach iawn fydd y cnwd o domatos gwyrdd felly, a da o beth 'di hynny. Mi dyfis i dri math o domatos o had y tro yma. Moneymaker. Hadau ges i am ddim o gylchgrawn. Dyma'r pethau olaf ar y rhandir eleni: ffa...
arasgwrnygraig.blogspot.com
Ar Asgwrn y Graig: May 2015
http://arasgwrnygraig.blogspot.com/2015_05_01_archive.html
Ar Asgwrn y Graig. Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr. Y mae'r haf yn hir yn dyfod. Ar ôl deuddydd braf ar ddechrau'r wythnos hanner tymor, mae hi wedi bod yn ddifrifol yma. Dim ond ganol pnawn heddiw cododd y tymheredd yn ôl uwchben 11 gradd C. Dwi ar ei hôl hi'n ddiawledig felly, ac yn dal i aros iddi gynhesu cyn hau pethau'n syth i'r ddaear. Er bod llwyth o bethau'n aros yn y tŷ gwydr i'w plannu allan, go brin ga'i flwyddyn gynhyrchiol iawn bellach.
arasgwrnygraig.blogspot.com
Ar Asgwrn y Graig: Lluniau gweddol dda!
http://arasgwrnygraig.blogspot.com/p/llun-y-mis.html
Ar Asgwrn y Graig. Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr. Tydw i ddim yn honni bod yn ffotograffydd o unrhyw safon, ond dyma ambell i ddelwedd sydd wedi plesio:. Hwn wedi dechrau fel 'Llun y mis' ond aeth hynny i'r gwellt ers talwm. Clwb Caru Cymylau Cwm Cynfal a'r Cylch. Barrug a rhew wastad yn cynnig llwyth o gyfleon tynnu lluniau. Golau'r bore sydd orau bob tro. Cymylau blew gafr, a chymylau traeth yn ychwanegu ychydig o ddiddordeb . Yma ar flodyn Inula.
arasgwrnygraig.blogspot.com
Ar Asgwrn y Graig: February 2015
http://arasgwrnygraig.blogspot.com/2015_02_01_archive.html
Ar Asgwrn y Graig. Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae mwy o groeso i ambell chwynnyn. Un o'r planhigion cyntaf i dyfu ar bridd noeth dechrau'r flwyddyn ydi berwr chwerw. Aelod bach o deulu mawr y bresych. Ac aelod blasus hefyd. Salad gwyllt cynta'r flwyddyn. Coesau cochion y rhiwbob cynta' yn tyfu mewn tywyllwch ar hyn o bryd. Mae nhw'n hwyrach na'r llynedd; roeddwn wedi codi'r pedwar coesyn cynta' yr adeg yma llynedd. Eira, rhew, haul a gwres. Cafwyd ...
arasgwrnygraig.blogspot.com
Ar Asgwrn y Graig: June 2015
http://arasgwrnygraig.blogspot.com/2015_06_01_archive.html
Ar Asgwrn y Graig. Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr. Hwyl fawr hanner cyntaf 2015! Anodd credu bod chwe mis cynta'r flwyddyn wedi mynd i rywle mwya' sydyn! Mae'r diwrnod hiraf wedi bod. " downhill. O hyn ymlaen" medda rhywun! Twt lol, dyma adeg orau'r flwyddyn. Mae wedi c'nesu digon i rywun fedru aros allan yn yr ardd ar ôl i'r haul fachlud dros Graig Nyth y Gigfran, heb i'r gwybaid ddod allan o fewn eiliadau! Y bordor lafant yn prifio'n dda. Mae'r gwely ...